Gadewch i ni siarad am Pijin | Pigeon
Canllaw ar gyfer pobl ifanc a’u hoedolion
Crëwyd Pijin | Pigeon ar gyfer pobl ifanc 13+ oed, ac oedolion. Gall rhai o’r themâu a’r pynciau yn y ddrama wneud i chi feddwl am bethau sy’n digwydd yn eich bywyd chi, neu ym mywydau pobl eraill yr un oed â chi.
Rydym wedi paratoi’r canllaw hwn i helpu pobl ifanc ac oedolion i siarad am rai o’r pynciau hyn, a’u cyfeirio ar ragor o wybodaeth.
Let’s talk about Pijin | Pigeon
A guide for young people and their adults
Pijin | Pigeon has been created for young people and adults aged 13+. Some of the themes and topics in the play might make you think about things going on in your own life or the lives of other people your age.
We have put together this guide to help young people and adults talk about some of these topics and sign post them to further information.