Y Dywysoges a'r Bysen Fechan Fach

Mewn teyrnas hudol, ymhell bell i ffwrdd, fe drigai Tywysog. Unig ddymuniad y Tywysog oedd priodi Tywysoges. Un noson, wrth i'r mellt fflachio a chlapio, wrth i'r gwynt chwyrlïo a chwyno, daw cnoc ar ddrws y castell a chaiff merch ei chwythu i mewn...ond does bosib fod hon yn Dywysoges?

Dim ond un ffordd sydd i ganfod y gwir...ESTYN Y BYSEN FRENHINOL a'i chuddio o dan y fatras! Dim ond Tywysoges go iawn fyddai’n gallu teimlo peth mor fach yn cuddio yno!

Ymunwch â Sherman Cymru a Theatr Iolo y Nadolig hwn am ail-gread llawn direidi o un o straeon tylwyth teg enwog Hans Christian Andersen.

Dyma stori llawn hwyl, cerddoriaeth, a digon o hud a lledrith, ac mae hi’n berffaith i blant 3 i 6 oed a'u teuluoedd.Gan Hans Christian Andersen


Gwyliwch y trelar:

Tim Creadigol:

Addasiad gan Katherine Chandler

Cyfarwyddwr Kevin Lewis

Cyfieithydd Ceri Elen

Cynllunydd Charlotte Neville

Cyfarwyddwr Cerdd: Dan Lawrence

Cynllunydd Goleuo: Rachel Mortimer

Cyfarwyddwr Cynorthwyol Tamar Eluned Williams

Ymgynghorydd Creadigol Sarah Argent

Cyfarwyddwr Corfforol Jem Treays

Rheolwr Llwyfan Brenda Knight

Rheolwr Gwisgoedd Deryn Tudor


Adolygiadau