Jane Lalljee – Production Manager

Dechreuodd Jane ei gyrfa theatr 23 mlynedd yn ôl yn Haymarket Caerlŷr. Ymhlith ei gwaith dylunio diweddaraf mae Here Be Monsters, Luna, The Bloody Ballad a Grimm Tales ar gyfer Theatr Iolo, Stitching (Company of Sirens), Heist (Citrus Arts), Fragments of Ash (Notional Theatre), Fresh Apples (Bespoken Theatre) a Venue 13 (Gŵyl Caeredin).

Y llynedd, mwynhaodd Jane weithio ochr yn ochr â myfyrwyr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fel Goruchwylydd Cynhyrchu ar sawl cynhyrchiad.

Cyn hyn roedd Jane yn Rheolwr Llwyfan y Cwmni ac yn Ddylunydd Goleuo yn Hijinx, ac mae wedi gweithio gyda Diversions, Sgript Cymru, Sherman Cymru, Clwyd Theatr Cymru, a Theatr Iolo.

Mae gan Jane gath o’r enw Noodles, sydd wedi’i henwi ar ôl ei hoff fwyd.

Role: 
Production Manager
Rheolwr Cynyrchiadau